Map Cyfleoedd Coetir 2021
Llywodraeth Cymru
Ers 1 Mawrth 2025, mae Map Cyfleoedd Coetir (WOM) 2021 wedi'i ddisodli gan fersiwn 2025. Dylai pob ymgeisydd am grant coetir a fyddai wedi defnyddio WOM 2021 bellach ddefnyddio fersiwn 2025. Nid yw WOM 2021 bellach yn cael ei gefnogi, na'i ddiweddaru, ac efallai nad ei ddata mewnbwn yw'r data mwyaf cyfredol sydd ar gael. Ewch i WOM 2025 yma.
Mae’r syllwr ar-lein yn rhoi syniad cyffredinol i reolwyr tir pa ardaloedd o Gymru sy’n fwyaf addas i blannu coetir newydd arnynt gan ddefnyddio data gofodol a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Mae'n berthnasol i bob cynnig i blannu coetir pa un ai a yw wedi’i ariannu’n gyhoeddus neu'n breifat. Caiff ei ddefnyddio wrth asesu ceisiadau ar gyfer cynlluniau plannu Llywodraeth Cymru. Ei nod yw sicrhau bod coed yn cael eu plannu yn y lle iawn er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl..
Dangosir map sgorio cyffredinol ar gyfer creu coetir yng Nghymru ar raddfa ganolig mewn lliw gwyrdd, gan dynnu sylw at y cyfleoedd gorau i greu coetir newydd ar lefel strategol. Mae'r sgôr gyffredinol hon yn seiliedig ar haenau data o wasanaethau neu fanteision ecosystem sy'n deillio o greu coetir newydd. Mae'n cefnogi amrywiaeth o bolisïau coedwigaeth ac amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Gellir edrych ar yr haenau data ar wahân sy'n ffurfio'r sgôr gyffredinol yn unigol ar raddfa lai.
Mae'r map yn cynnwys gwybodaeth hefyd i ddangos ardaloedd a allai fod yn sensitif i greu coetir newydd. Yn ogystal, mae’n cyfeirio at ganllawiau pellach o ran ymgynghori â'r awdurdod priodol. Mae'r haenau sensitifedd hyn yn dangos ardaloedd o Gymru lle nodwyd amodau bioffisegol, dynodiadau tirwedd a safleoedd archaeolegol y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt a chael rhagor o gyngor arnynt. Gellir dadansoddi'r haenau hyn gan ddefnyddio offerynnau’r map i ddangos lle mae cynnig plannu yn torri ar draws ardal sensitif o bosibl. Mae canllawiau manwl pellach i’w gweld mewn ffenestri naid sy'n cyd-fynd â'r haenau hyn.
I weld Canllaw i Ddefnyddwyr y Map Cyfleoedd Coetir, cliciwch yma
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (1)
- Math:
- Map
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad creu:
- 25 Mehefin 2021
- Trwydded:
- Heb ei nodi
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- Environment, Forestry, Woodland
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Rhifyn
- Draft map
- Iaith
- Saesneg