Mae’r ffin ddigidol hon yn diffinio’r terfyn uchaf ar gyfer tir caeedig sy’n gwahanu cynefinoedd yr ucheldir a’r iseldir, a chafodd ei mabwysiadu yn ystod cam un yr arolwg a’r arolwg o lystyfiant yr ucheldir yng Nghymru a gynhaliwyd gan Uned Faes Cymru. Cynhaliwyd yr arolygon maes gwreiddiol rhwng 1979 a 1999 fel rhan o brosiect arolygu cynefinoedd cenedlaethol yr oedd ei angen er mwyn gweithredu mesurau cadwraeth ar lefel leol. Cafodd y ffin ei dilysu a’i digideiddio yn 2000. Gellir gweld bod y terfyn uchderol is ar gyfer llystyfiant yr ucheldir yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru. Mae llinell y ffin hon yn adlewyrchu’r ffactorau amgylcheddol lleol sy’n dylanwadu ar y math o lystyfiant.

Hanes: Parodd yr arolwg maes o 1979 tan 1999. Gwnaeth timau o arolygwyr a oedd wedi’u cydlynu’n agos gofnodi cynefinoedd yn y maes ar fapiau â graddfa 1:10,000 (ar adegau prin defnyddiwyd graddfa 1:25,000 yn ystod cam arolygu’r ucheldir). Mae’r lleiniau cynefin lleiaf a gofnodwyd yn mesur 0.1 – 0.25 hectar yn bennaf, er y cafodd ardaloedd llai eu mapio yn yr iseldir. Nodir rhagor o fanylion am y dulliau arolygu a ddefnyddiwyd yn ystod cam arolygu cychwynnol yr ucheldir mewn adroddiad gan Uned Faes Cymru (Day, A. (1989), Upland Vegetation Survey 1979-1989 Background Methodology and Summary of Data Collected. Y Cyngor Cadwraeth Natur, Bangor). Roedd y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg o’r iseldir yn dilyn y llawlyfr ar gyfer cam un o’r arolwg cynefinoedd, gydag ychydig o fân addasiadau a fabwysiadwyd ar gyfer eu defnyddio yng Nghymru (Howe E.A. a Blackstock T.H. (1991), Supplementary Notes for Phase I Survey in Wales, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor). Cafodd yr holl waith mapio yn y maes ei wneud gan dimau o arolygwyr hyfforddedig a oedd wedi’u cydlynu’n agos. Cynhaliwyd dwy astudiaeth o ddibynadwyedd y gwaith arolygu yn ystod cam arolygu’r iseldir (Kerry, Rimes, Smith, Williams (1994), An Assessment of Errors in Phase I Habitat Survey in Wales. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor. Rhif Adroddiad 94/4/1), (Stevens, Blackstock, Howe, Stevens (2004), Repeatability of Phase 1 habitat survey. The Journal of Environmental. Management t. 73, tt. 53-59). Cynhaliwyd cyfres o brofion ar y data electronig er mwyn gwirio’u cywirdeb – gan y contractiwr ac, yn ddiweddarach, o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru).

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Y cyd-destun ar gyfer Map Cyfle Coetir (MCC) 2021

Mae’r set ddata hon yn dangos y ffin rhwng ucheldir ac iseldir Cymru a fabwysiadwyd yn ystod cam un yr arolwg a’r arolwg o lystyfiant yr ucheldir yng Nghymru a gynhaliwyd gan Uned Faes Cymru. Mae’r haen hon wedi cael ei chreu o’r un data a welir mewn mannau eraill o MCC21 yn y set ddata “Cynefin â Blaenoriaeth – Sensitifrwydd Uchel” a’r set ddata “Cynefin Mosaigau â Blaenoriaeth – Angen Archwiliad”.

Yn hanesyddol, at ddibenion coetiroedd, pennwyd mai ar uchder o 300 metr uwchlaw lefel y môr y mae’r ffin rhwng yr ucheldir a’r iseldir. Fodd bynnag, mae’r terfyn uchaf ar gyfer tir caeedig, sy’n deillio o’r arolygon maes, yn ei gwneud yn bosibl i ffin yr ucheldir ddilyn amodau amgylcheddol lleol nad ydynt yn aml yn dilyn cyfuchlin uchderol penodol.

Mae canllawiau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn nodi bod cynefinoedd penodol (glaswelltir asid, glaswelltir corsiog) yn dod o dan adran 7, ac felly maent yn warchodedig ar iseldir ond nid felly ar ucheldir. O ganlyniad, mae llinell y ffin hon yn darparu cyd-destun ar gyfer pob cynllun plannu coed arfaethedig. Mae cynlluniau sy’n cynnig plannu ar ardaloedd a ddynodwyd yn “Gynefin â Blaenoriaeth – Sensitifrwydd Uchel” yn annhebygol o gael eu dilysu; dylid eithrio’r ardaloedd hyn rhag cynigion plannu. Fodd bynnag, os oes gennych sail resymol dros gredu bod y tir wedi cael ei gofnodi’n anghywir, gallwch gyflwyno tystiolaeth ffotograffig a gofyn am adolygiad gan ddefnyddio nodyn canllaw GN009.

Mae’r haen ddata ar gyfer “Cynefin Mosaigau â Blaenoriaeth – Angen Archwiliad” yn dangos lle credir bod llecynnau o laswelltir asid yr ucheldir a/neu laswelltir corsiog yr ucheldir yn bresennol mewn mosaig â chynefinoedd â blaenoriaeth adran 7. Lle mae’r ardaloedd hyn o laswelltir asid / glaswelltir corsiog yr ucheldir yn fawr mae ganddynt y potensial i gael eu plannu yn unol â chanllawiau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar gyfer Creu Coetir – ar yr amod y cytunir ar hyn â CNC ymhell ymlaen llaw cyn dilysu.

Mae’n bwysig rhoi sylw i sensitifeddau eraill hefyd, e.e. rhywogaethau â blaenoriaeth, mawn dwfn a dynodiadau tirwedd wrth ddatblygu cynigion plannu coed, a’ch bod yn ceisio arweiniad perthnasol. Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar sensitifeddau eraill yn ffolder ‘Sensitifeddau’ MCC21 a hefyd yn nodyn canllaw GN002.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (2)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
unique_id
type
shape_leng
shape_area

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg