Mae'r map Rheoli Risg Erydiad Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) yn dangos gwaelodlin arfordirol ofodol NCERM. Mae'r waelodlin hon wedi'i rhannu’n ‘ffryntiadau’. Diffinnir y rhain fel darnau o arfordir sydd â nodweddion cyson yn seiliedig ar nodweddion ymddygiad clogwyni a'r nodweddion amddiffyn. Fe'i bwriedir fel set ddata meincnodi gyfredol a dibynadwy sy'n dangos graddfa a chyfraddau erydiad ar gyfer tri chyfnod o un dyddiad sylfaenol, sef 2005:

  • Tymor Byr (0 – 20 mlynedd h.y. 2005 hyd 2025);
  • Tymor Canolig (20 – 50 mlynedd h.y. 2025 hyd 2055); a
  • Tymor Hir (50 – 100 mlynedd h.y. 2055 hyd 2105).

Mae’r data ar raddfa’r erydiad yn seiliedig ar lefelau hyder o 50 canradd, ac mae gwerthoedd ar gael ar lefelau hyder o 5-95 canradd ar gyfer rhagfynegiadau erydiad yn y ddau senario isod (Noder – mae’r holl bellterau’n gronnus dros amser ac wedi’u nodi mewn metrau).

  • Heb unrhyw bolisi ymyrraeth weithredol; a
  • Gan weithredu Polisïau Cynllun Rheoli Traethlin 2.

Mae polisïau math Amddiffyn a CRhT ar gyfer pob un o'r tri chyfnod a ddisgrifir uchod wedi'u cynnwys.

Mae'r data a'r wybodaeth gysylltiedig wedi'u bwriadu at ddibenion cyfarwyddyd - ni all y rhain ddarparu manylion ar gyfer eiddo unigol. Mae gwybodaethNCERM yn ystyried y prif risg yn yr arfordir, er bod prosesau llifogydd ac erydiad yn aml yn gysylltiedig, ac nid yw data ar erydu nodweddion y blaendraeth yn cael eu cynnwys yn gyffredinol.

Mae'r data yn disgrifio'r amcangyfrifon uchaf ac isaf o risg erydu mewn lleoliad penodol y disgwylir i leoliad gwirioneddol yr arfordir orwedd ynddo. Nid yw'r data yn amcangyfrif lleoliad absoliwt arfordir y dyfodol. Yn gyffredinol, nid yw manylion ardaloedd daearegol cymhleth, a elwir yn "glogwyni cymhleth", wedi'u cynnwys yn gyffredinol yn y set ddata oherwydd yr ansicrwydd cynhenid sy'n gysylltiedig â rhagfynegi amseriad a maint yr erydiad yn y lleoliadau hyn.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (2)

Lawrlwytho data gofodol
  • National Coastal Erosion Risk Management - No Active Intervention

  • National Coastal Erosion Risk Management - SMP Policy

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn