Adnabod
- Teitl
- Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth
- Crynodeb
Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd daearol
Mae Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd daearol yn fathau o rwydweithiau cynefinoedd Cymru gyfan sy’n dangos ardaloedd o gysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig, ac felly’n darparu fframwaith i lywio lleoliad gweithredu i adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn a swyddogaethol yn seiliedig ar ein mannau pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth. Camau gweithredu nodweddiadol fyddai gwella, adfer neu greu cynefinoedd, wedi’u lleoli o fewn ffiniau Rhwydwaith ecolegol â Blaenoriaeth, neu wedi’u lleoli ar ei ymylon, i gydgrynhoi, ymestyn neu gysylltu gwahanol Rwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth. Mae’r Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth hyn yn disodli haenau system gwybodaeth ddaearyddol a elwid gynt yn ‘rhwydweithiau Lefel 2’, ac maent ar gael ar gyfer y canlynol:
Coetiroedd brodorol, glaswelltiroedd lled-naturiol, rhostiroedd, corsydd, ffeniau a thwyni tywod
Mae’r holl rwydweithiau blaenoriaeth hyn hefyd yn cael eu cynrychioli fel map ‘Llecynnau Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth’, sy’n gyfrif syml o’r holl rwydweithiau sydd ar gael o fewn 1km sgwâr penodol i gael ‘cipolwg’ ar draws Cymru.
Yn ogystal, mae Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth y ‘coetiroedd brodorol’ a’r ‘glaswelltiroedd lled-naturiol’ wedi cael diweddariadau ar ffurf rhwydweithiau ychwanegol i ddarparu ar gyfer ein cyfres ddiweddaraf o safleoedd gwarchodedig a gwybodaeth arolwg ac maent yn ehangu y tu hwnt i’r hyn a oedd ar gael yn wreiddiol. Mae rhostiroedd, corsydd a ffeniau wedi’u huno o’u fersiynau ucheldirol ac iseldirol ar wahân yn wreiddiol yn setiau data unigol ac mae rhwydwaith ‘twyni tywod’ nas cyhoeddwyd o’r blaen hefyd wedi’i gynnwys bellach. Mae Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth dŵr croyw yn yr arfaeth.
Sylwer: Mae’r haenau mapiau unigol hyn yn ddisgrifiad wedi’i fodelu o gysylltedd cyfredol rhwng cynefinoedd ac felly dylid eu hystyried fel rhai disgrifiadol yn hytrach na rhai rhagnodol!
Yn ogystal â’r set hon o rwydweithiau blaenoriaeth, mae’n ddefnyddiol hefyd gallu gweld yr haenau hyn ochr yn ochr â setiau data agored eraill sydd ar gael i’w lawrlwytho o MapDataCymru gan ddefnyddio’r dolenni isod:
- Ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig:
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) | MapDataCymru (llyw.cymru)
- Ffiniau SoDdGA wedi’u clustogi i 300m
Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd morol
Ar y môr, sefydlwyd rhwydwaith ecolegol cydlynol o ardaloedd morol gwarchodedig a fydd, pan fydd mesurau ar waith i sicrhau cyflwr da, yn ffurfio Rhwydwaith Ecolegol Gwydn y môr.
Mae cysylltedd o fewn rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gynhenid dda, fodd bynnag, mae’n hysbys bod rhai o'r nodweddion (rhywogaethau a chynefinoedd y dynodwyd y safleoedd ar eu cyfer) mewn cyflwr anffafriol. Yn ddiweddar, mae CNC wedi cynnal asesiadau cyflwr wedi'u diweddaru (Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd Cymru (EMS) (2025) sydd bellach wedi'u hymgorffori yn y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth forol hwn.
Mae map yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPEN) yn dangos cwmpas llawn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig (glas golau), gan amlygu'r safleoedd lle gwyddys bod un neu fwy o nodweddion mewn cyflwr anffafriol (ardal wedi'i chroeslinellu). Sylwer - dim ond safleoedd Cymru sydd wedi'u hystyried yn yr asesiadau cyflwr sydd wedi’i diweddaru. Ar gyfer safleoedd trawsffiniol (h.y. Aber Afon Dyfrdwy, Aber Hafren) mae asesiadau cyflwr yn cael eu datblygu, defnyddiwyd data sydd â lefel is o hyder o asesiadau cyflwr dangosol 2018 nes bod y rhain yn cael eu cyhoeddi.
Yn yr ardaloedd hyn sydd wedi eu croeslinellu, mae angen gweithredu i gyflwyno mesurau sy'n adfer nodweddion, yn lleihau pwysau i’w galluogi i wella, neu’n casglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gynorthwyo rheolaeth effeithiol.
Mae CNC yn parhau i gasglu ac asesu gwybodaeth am gyflwr cynefinoedd a rhywogaethau ar draws y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol. Bydd fersiynau o'r Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol yn y dyfodol yn ymgorffori tystiolaeth a dealltwriaeth newydd wrth iddynt ddod ar gael.
Ochr yn ochr â'r Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol efallai y byddai'n ddefnyddiol edrych ar:
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr nodweddion dangosol ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd: adroddiadau ar asesiadau cyflwr nodweddion dangosol, a gynhaliwyd yn 2018.
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd Cymru: adroddiadau ar asesiadau cyflwr nodweddion dangosol, a gynhaliwyd yn 2025 ar gyfer safleoedd Cymru yn unig.
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynlluniau Gweithredu Thematig LIFE N2K: sy'n cynnwys gwybodaeth am bwysau a bygythiadau allweddol sy'n effeithio ar safleoedd a nodweddion o fewn y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth forol.
Mae setiau data agored defnyddiol eraill sydd ar gael i'w lawrlwytho o DataMapWales yn cynnwys:
- Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn Nyfroedd Cymru | DataMapWales (llyw.cymru): mae rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cynnwys: Ardaloedd Cadwraeth Arbennig; Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig; safleoedd Ramsar; Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Pharth Cadwraeth Morol.
- Nodweddion Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Morol | DataMapWales (llyw.cymru): maint sylfaenol dangosol a statws nodweddion cynefin Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar adeg dynodi'r safle.
Cydnabyddiaeth Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Dyddiad cyhoeddi
- 03 Medi 2025
- Math
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Rhanbarthau
- Global
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
- Grŵp
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwybodaeth
- Maint gofodol
- System daflunio
- EPSG:27700
- Estyniad x0
- 146597.199797902
- Estyniad x1
- 355308.0
- Estyniad y0
- 164586.296917809
- Estyniad y1
- 395984.199957072
Nodweddion
Cyswllt
- E-bost
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Sefydliad
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /layergroups/geonode:nrw_priority_ecological_networks
- Tudalen fetadata
- /layergroups/geonode:nrw_priority_ecological_networks/metadata_detail