Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd daearol

Mae Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd daearol yn fathau o rwydweithiau cynefinoedd Cymru gyfan sy’n dangos ardaloedd o gysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig, ac felly’n darparu fframwaith i lywio lleoliad gweithredu i adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn a swyddogaethol yn seiliedig ar ein mannau pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth. Camau gweithredu nodweddiadol fyddai gwella, adfer neu greu cynefinoedd, wedi’u lleoli o fewn ffiniau Rhwydwaith ecolegol â Blaenoriaeth, neu wedi’u lleoli ar ei ymylon, i gydgrynhoi, ymestyn neu gysylltu gwahanol Rwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth. Mae’r Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth hyn yn disodli haenau system gwybodaeth ddaearyddol a elwid gynt yn ‘rhwydweithiau Lefel 2’, ac maent ar gael ar gyfer y canlynol:

Coetiroedd brodorol, glaswelltiroedd lled-naturiol, rhostiroedd, corsydd, ffeniau a thwyni tywod

Mae’r holl rwydweithiau blaenoriaeth hyn hefyd yn cael eu cynrychioli fel map ‘Llecynnau Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth’, sy’n gyfrif syml o’r holl rwydweithiau sydd ar gael o fewn 1km sgwâr penodol i gael ‘cipolwg’ ar draws Cymru.

Yn ogystal, mae Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth y ‘coetiroedd brodorol’ a’r ‘glaswelltiroedd lled-naturiol’ wedi cael diweddariadau ar ffurf rhwydweithiau ychwanegol i ddarparu ar gyfer ein cyfres ddiweddaraf o safleoedd gwarchodedig a gwybodaeth arolwg ac maent yn ehangu y tu hwnt i’r hyn a oedd ar gael yn wreiddiol. Mae rhostiroedd, corsydd a ffeniau wedi’u huno o’u fersiynau ucheldirol ac iseldirol ar wahân yn wreiddiol yn setiau data unigol ac mae rhwydwaith ‘twyni tywod’ nas cyhoeddwyd o’r blaen hefyd wedi’i gynnwys bellach. Mae Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth dŵr croyw yn yr arfaeth.

Sylwer: Mae’r haenau mapiau unigol hyn yn ddisgrifiad wedi’i fodelu o gysylltedd cyfredol rhwng cynefinoedd ac felly dylid eu hystyried fel rhai disgrifiadol yn hytrach na rhai rhagnodol!

Yn ogystal â’r set hon o rwydweithiau blaenoriaeth, mae’n ddefnyddiol hefyd gallu gweld yr haenau hyn ochr yn ochr â setiau data agored eraill sydd ar gael i’w lawrlwytho o MapDataCymru gan ddefnyddio’r dolenni isod:

  • Ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig:

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) | MapDataCymru (llyw.cymru)

  • Ffiniau SoDdGA wedi’u clustogi i 300m

WOM21 Byffer 100/300m Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) / Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) | MapDataCymru (llyw.cymru)

Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd morol

Ar y môr, sefydlwyd rhwydwaith ecolegol gydlynol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a fydd, pan fydd mesurau ar waith i sicrhau cyflwr da, yn ffurfio Rhwydwaith Ecolegol Gwydn y môr.

Mae cysylltedd o fewn rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gynhenid dda, ond mae’n hysbys bod rhai o’r nodweddion (rhywogaethau a chynefinoedd y dynodwyd y safleoedd ar eu cyfer) mewn cyflwr anffafriol (Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr nodweddion dangosol ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd).

Mae map y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol yn dangos maint llawn rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig (glas golau), gan amlygu’r safleoedd lle mae’n hysbys bod un neu ragor o nodweddion mewn cyflwr anffafriol (ardal â chroeslinellau).

Yn yr ardaloedd hyn â chroeslinellau, mae angen gweithredu i gyflwyno mesurau sy’n adfer nodweddion, yn lleihau’r pwysau i’w galluogi i wella, neu’n casglu’r dystiolaeth y mae ei hangen i gynorthwyo rheolaeth effeithiol.

Mae CNC yn parhau i gasglu ac asesu gwybodaeth am gyflwr cynefinoedd a rhywogaethau ar draws rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Bydd fersiynau o’r Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol yn y dyfodol yn ymgorffori tystiolaeth a dealltwriaeth newydd wrth iddynt ddod ar gael.

Ochr yn ochr â’r Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol, gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar y canlynol:

Mae setiau data agored defnyddiol eraill sydd ar gael i’w lawrlwytho o MapDataCymru yn cynnwys:

Cydnabyddiaeth Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (7)

Lawrlwytho data gofodol
  • nrw_marine_pen_2023

  • nrw_native_woodland_pen_2023

  • nrw_semi_natural_grassland_pen_2023

  • nrw_heathland_pen_2023

  • nrw_sand_dune_pen_2023

  • nrw_fen_pen_2023

  • nrw_bog_pen_2023

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn