Mae'r set ddata hon yn dangos, ar gyfer mis Awst 2021, yr holl anheddau y codwyd y Dreth Gyngor arnynt ac a oedd hefyd yn cael eu categoreiddio’n ail gartrefi.

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu cyflwyno ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol (MSOA) yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio data am y dreth gyngor a roddir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gan awdurdodau lleol Cymru.

Cafodd yr ystadegau eu cysylltu â haen ffiniau MSOA 2011 er mwyn gweld geometreg y ffin.

Nodiadau

Sylwer nad oedd data ar gael ar gyfer Sir Benfro ac Abertawe ar yr adeg y cyhoeddwyd yr ystadegau.

Cadwyd peth o'r data yn ôl oherwydd nad oes unrhyw ail gartrefi neu oherwydd bod llai na phum ail gartref yn yr ardal ddaearyddol a ddewiswyd.

Mae anheddau y codir tâl arnynt yn anheddau domestig mewn ardal y mae'r dreth gyngor yn daladwy ar ei chyfer. Nid yw'n cynnwys anheddau sydd wedi'u hesemptio rhag talu’r dreth cyngor. Mae pob annedd y codir tâl arni yn cael ei chyfrif yn un annedd, p’un a oes gofyn talu bil treth gyngor llawn ar ei chyfer ai peidio.

Mae Llywodraeth Cymru  yn cyhoeddi nifer y tai gwag ac ail gartrefi y codir tâl arnynt, ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru (Cartrefi gwag ac ail gartrefi sy’n daladwy, yn ôl blwyddyn (nifer yr anheddau)) (llyw.cymru)). Mae ffigurau LlC yn wahanol i ffigurau'r SYG oherwydd eu bod yn seiliedig ar gasglu data cyfanredol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol ac oherwydd bod yr AALlau yn gwneud addasiadau er mwyn amcangyfrif beth sy'n debygol o ddigwydd yn y flwyddyn sydd i ddod.

Efallai na fydd y cyfrif ar gyfer MSOAoedd yn cyfateb i gyfrif yr awdurdodau lleol oherwydd bod peth data yn cael eu dal yn ôl.

Ffynhonnell: SYG, Data Treth Gyngor yr Awdurdodau Lleol

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/housing/datasets/counciltaxchargeablesecondhomesinwales

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (5)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
geom
msoa_code Cod y MSOA
msoa_name Enw’r MSOA
chargeable_dwellings_total Cyfanswm yr anheddau y codir tâl arnynt
chargeable_dwellings_second_homes Cyfanswm yr anheddau sy’n ail gartrefi y codir tâl arnynt

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
Ail gartrefi, Council tax, Second homes, Y dreth gyngor
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg