Enw'r briodwedd | Label | Disgrifiad |
---|---|---|
objectid | ||
ea_wb_id | ||
country | ||
camsdsq30 | ||
camsdsq50 | ||
camsdsq70 | ||
camsdsq95 | ||
shape_starea__ | ||
shape_stlength__ | ||
geom |
Data ar Argaeledd Adnoddau Dŵr
Cyfoeth Naturiol Cymru
Seiliwyd y data Argaeledd Adnoddau Dŵr ar ddull cenedlaethol cyson ac maent yn rhoi darlun o Argaeledd Adnoddau Dŵr ar gyfer pob corff dŵr Cylch 2 o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Darperir gwybodaeth am Argaeledd Adnoddau Dŵr Lleol at ddibenion trwyddedu tynnu dŵr yn ein Strategaethau Trwyddedu Tynnu Dŵr a gyhoeddir ar ein gwefan. Mae’r Strategaethau Trwyddedu Tynnu Dŵr yn nodi goblygiadau’r gwahanol liwiau argaeledd adnoddau dŵr ar drwyddedu tynnu dŵr.
Gallai’r darlun cenedlaethol o Argaeledd Adnoddau Dŵr fod yn wahanol i’r asesiadau lleol a wneir mewn Strategaethau Trwyddedu Tynnu Dŵr, yn enwedig felly ar gyfer afonydd wedi’u rheoleiddio ac afonydd a ddynodwyd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, lle gallai’r gofynion lleol olygu bod y canlyniadau wedi’u diystyru.
Disgrifiadau Argaeledd Adnoddau Dŵr
- Gwyrdd: Dŵr ar gael i’w drwyddedu
- Melyn: Dŵr cyfyngedig ar gael i’w drwyddedu
- Coch: Nid yw’r dŵr ar gael i’w drwyddedu
- Llwyd: Cyrff dŵr wedi’u haddasu’n sylweddol a/neu ddalgylchoedd sy’n gollwng llawer o ddŵr
Nid data crai mo’r rhain, ac nid ydynt yn ffeithiol nac yn fesuredig. Amcangyfrifon neu ganlyniadau wedi’u modelu ydynt, sy’n dangos y canlyniadau y gellir eu disgwyl ar sail y data sydd ar gael inni.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Ddata Hawl. Cedwir pob hawl. Rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol a drwyddedwyd oddi wrth y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg © NERC (CEH). Yn cynnwys data Arolwg Ordnans © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (10)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 06 Gorffenaf 2022
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Iaith
- Saesneg