Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg gyfrifoldeb unigryw i gynnig cyngor am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru. Cyhoeddir yr argymhellion hyn yn y rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru ar wefan y Comisiynydd. Gallwch bori drwy’r rhestr hon er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut mae ynganu’r enw a gweld llun o’r lle diolch i bartneriaeth â Wikimedia.

Mae’r ffurfiau sy’n cael eu cyhoeddi yn rhestr y Comisiynydd wedi eu safoni gan Banel Safoni Enwau Lleoedd y Comisiynydd. Mae’r Panel yn defnyddio Canllawiau Safoni Cenedlaethol wrth eu gwaith: Canllawiau Safoni Enwau Cymru.

Byddwch yn sylwi mai enwau Cymraeg sy’n cael blaenoriaeth ar y map hwn. Bydd angen clicio ar y smotyn glas wrth yr enw er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr enw ac i ddysgu a oes enw amgen i’w ddefnyddio yn Saesneg.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi datblygu API ar gyfer yr enwau hyn a fydd o ddiddordeb i ddatblygwyr efallai. Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Comisiynydd er mwyn trafod ymhellach.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (11)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
geom
ffurf_safonol Ffurf safonol
ffurf_safonol_arall Ffurf safonol arall
ffurf_saesneg Ffur Saesneg
math_cymraeg Math
math_saesneg Math saesneg
awdurdod_lleol_cymraeg Awdurdod lleol
awdurdod_lleol_saesneg Awdurdod lleol
cyfeirnod_grid Cyfeirnod grid
id
cod_post Cod post

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
Place-names, Welsh
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg