Map Enwau Lleoedd Safonol Cymru
Comisiynydd y Gymraeg
Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg gyfrifoldeb unigryw i gynnig cyngor am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru. Cyhoeddir yr argymhellion hyn yn y rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru ar wefan y Comisiynydd. Gallwch bori drwy’r rhestr hon er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut mae ynganu’r enw a gweld llun o’r lle diolch i bartneriaeth â Wikimedia.
Mae’r ffurfiau sy’n cael eu cyhoeddi yn rhestr y Comisiynydd wedi eu safoni gan Banel Safoni Enwau Lleoedd y Comisiynydd. Mae’r Panel yn defnyddio Canllawiau Safoni Cenedlaethol wrth eu gwaith: Canllawiau Safoni Enwau Cymru.
Byddwch yn sylwi mai enwau Cymraeg sy’n cael blaenoriaeth ar y map hwn. Bydd angen clicio ar y smotyn glas wrth yr enw er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr enw ac i ddysgu a oes enw amgen i’w ddefnyddio yn Saesneg.
Mae’r Comisiynydd hefyd wedi datblygu API ar gyfer yr enwau hyn a fydd o ddiddordeb i ddatblygwyr efallai. Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Comisiynydd er mwyn trafod ymhellach.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (1)
- Math:
- Map
- Dyddiad cyhoeddi:
- 16 Hydref 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Geiriau allweddol:
- Standard, Welsh
- Pwynt cyswllt:
- post@cyg-wlc.cymru
- Iaith
- Saesneg