1.1 Cefndir

Dynodir ‘llongddrylliadau’ o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.

Mae llongddrylliadau niferus yn y moroedd o amgylch Cymru. Er bod gwerth hanesyddol i bob un ohonynt, mae chwech yn cael eu diogelu'n gyfreithiol ar hyn o bryd. Gelwir y chwech hyn yn ‘llongddrylliadau dynodedig’ neu ‘longddrylliadau a warchodir’.

‘Llongddrylliad’ yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywbeth sydd wedi cael ei golli ar y môr a gall hyn gynnwys rhywbeth a ddisgynnodd dros ochr llong, rhywbeth a daflwyd dros ochr y llong i'w hysgafnhau, neu'r llong ei hun.

1.2 Amlder Diweddaru

Er bod y broses o ddynodi llongddrylliadau’n un barhaus, nid yw'r set ddata gyfredol wedi newid ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o Lle o dro i dro.

1.3 Darluniadau

Nid yw siart sy'n dangos lleoliad Llongddrylliad a Warchodir yn rhan o'r cofnod swyddogol. Lluniwyd y darluniau GIS ar sail y wybodaeth leoliadol yn yr Offeryn Statudol a ddefnyddiwyd i ddynodi'r safle.

1.4 Defnyddio Data

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y data hwn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data’n addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data’n arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael ei ddehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data ei wirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol:-

Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

1.5 Gwybodaeth Arall

Mae rhagor o wybodaeth am Longddrylliadau a Warchodir i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: -

http://cadw.llyw.cymru/Archeoleg arfordirol a morwrol | Cadw (llyw.cymru)

Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: -

Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru)

Cyngor Cyffredinol

Mae nodiadau canllaw i bobl sy'n darganfod llongddrylliadau hanesyddol ac i ddeifwyr hamdden ar gael gan Cadw. Mae angen trwyddedau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fonitro, arolygu neu gloddio llongddrylliadau hanesyddol dynodedig.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (1)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (14)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
RecordNumber
Name
Name_cy
Location
DecimalLattitude
DecimalLongitude
BroadClass
BroadClass_cy
Period
Period_cy
SiteType
SiteType_cy
Report
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad creu:
11 Gorffenaf 2017
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
Cadw_DesignatedWrecks, features
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg