Mae'r map hwn yn dangos ardaloedd yng Nghymru lle gall ffermwyr a rheolwyr tir wneud cais am ardaloedd bychain o blannu coed rhwng 0.1 a 2 hectar, o dan y cynllun Grantiau Bach - Creu Coetir. Mae hwn yn gynllun syml sy'n ceisio annog plannu ardaloedd bychain o goetir ar dir sydd wedi'i wella'n amaethyddol neu o werth amgylcheddol isel yng Nghymru. Mae'r haen map hwn yn dangos ardaloedd sensitifrwydd isel lle na chafwyd hyd i resymau a nodwyd i osgoi plannu coed. Argymhellir eich bod yn cynnal asesiad safle manwl o'r ardal arfaethedig ar gyfer ei phlannu, er mwyn gallu ateb y cwestiynau o fewn y cais am grant.

Nid yw’r ardal sensitifrwydd isel yn cynnwys ardaloedd megis cynefinoedd â blaenoriaeth, tir agored, a tir comin er mwyn osgoi’r risg o effeithiau amgylcheddol neu dirwedd negyddol.  Os nad yw'r tir y mae arnoch eisiau ei blannu yn cael ei ddangos o fewn yr haen sensitifrwydd isel hon, gallwch wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetiroedd (WCPS) a byddwch yn cael cefnogaeth gan Gynllunydd Coetir Cofrestredig i ddatblygu Cynllun Creu Coetir. Mae Map Cyfle Coetir (WOM), sydd hefyd ar gael ar MapDataCymru, ar gael i helpu fel offeryn cymorth penderfynu ar gyfer y cynllun grant creu coetir llawn, a dylid ei ddefnyddio os ydych chi'n ystyried plannu mwy na 2 hectar o goetir gan ddefnyddio grant gan Lywodraeth Cymru.

Mae arian gan y cynllun Grantiau Bychain – Creu Coetir ar gael i blannu coed er mwyn creu coedwigoedd i roi cysgod i stoc, plannu coed ochr yn ochr â chyrsiau dŵr i wella ansawdd dŵr, ac mewn corneli caeau neu gaeau bach ar gyfer rhoi cysgod i stoc, bioamrywiaeth a thanwydd coed. O dan y cynllun hwn, mae'r broses ymgeisio'n ffordd gyflym a syml o sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) heb orfod anfon cynllun creu coetir ar gyfer gwirio i CNC.

Llinach

Defnyddiwyd marc penllanw i Gymru yr Arolwg Ordnans (yn deillio o gynnyrch Llinell Ffiniau OS - https://mapdata.llyw.cymru/layers/inspire-wg:wales_hwm) fel haen sylfaenol, ac yna cafodd yr haenau canlynol eu dileu drwy ddefnyddio geobrosesu yn ArcMap10.8, sydd i gyd yn bresennol o fewn Map Cyfle Coetir (https://mapdata.llyw.cymru/maps/woodland-opportunity-map-2021/) i'w lawrlwytho fel data agored. 

Tir Comin

Mawn Dwfn (gan gynnwys Mawn Dwfn wedi'i Addasu)

Ffyngau Tir Glas

Nodweddion amgylchedd hanesyddol (HEF)

Nodweddion amgylchedd hanesyddol (HEF) Clustog 50m

Mynediad Agored

Cynefin Posibl i Löynnod Byw Brith dros Redyn

Cynefin Posibl ar gyfer Madfallod Cribog Mawr

Cynefin Posibl i Adar Dibynnol Tir Agored

Cynefin Blaenoriaeth - Sensitifrwydd Uchel

Mosaig Cynefinoedd Blaenoriaeth - Angen Ymchwiliad

Safle Geoamrywiaeth Pwysig yn Rhanbarthol (RIGS)

Parciau a Gerddi Brenhinol Hanesyddol (RHPG)

Heneb Gofrestredig (SM)

Heneb Gofrestredig (SM) Clustog 5m

Planhigion Sensitif Tir Ȃr

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) 100/300m Byffer

Ardaloedd Gwarchod Arbennig yr Ucheldir (SPA)

Ardaloedd Gwarchod Arbennig yr Ucheldir (SPA) Clustog 500m

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol 2018 (Coetir presennol)

Arolwg Ordnans (AR) Cyrff Dŵr <400m2

Arolwg llystyfiant Cam 1 - Tir uwchben terfyn uchaf clostir

Ar ôl i'r haenau hyn gael eu dileu, ffrwydrwyd yr ardal polygon sy'n weddill yn nodweddion unigol, a chafodd unrhyw ardaloedd <0.1 hectar eu dileu hefyd gan y byddai'r rhain yn anghymwys ar gyfer plannu.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (1)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad creu:
10 Awst 2022
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol
Darllenwch y metadata llawn