Adeiladwaith
Llywodraeth Cymru
Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn cynyddu tymheredd ac yn newid patrymau lleithder a glaw yng Nghymru ac, yn ehangach, ledled y DU. Mae gan batrymau hinsawdd o'r fath y potensial i newid y tymheredd, lleithder, ansawdd aer a'r lefelau llygredd cysylltiedig, yn ogystal â gwytnwch deunyddiau allanol cartrefi ledled y wlad. Er mwyn deall yr effeithiau hyn yn well, cynhaliwyd dadansoddiad o ba mor agored oedd adeiladau i'r hinsawdd gan dîm cydweithredol o Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a chwmni Resilient Analytics, ymgynghorwyr gwytnwch hinsawdd o Golorado, UDA.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yma: Dadansoddiad Hinsawdd Tai Cymru Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Dadansoddiad Hinsawdd Tai Cymru yn dangos rhagamcanion hinsawdd, ansawdd aer dan do, cysur thermol a chanlyniadau gwendid adeiladwaith ar gael yma ar gyfer pob sir yng Nghymru, yn ogystal ag astudiaethau achos manylach ar gyfer tair dinas ac un dref.
Ansawdd Aer Dan Do a Cysur Thermol ar gael yma ar gyfer pob sir yng Nghymru.
Mae mapiau sy'n cyd-fynd â'r gyfres hon i'w gweld yma:
Rhagamcaniadau Hinsawdd sy'n cynnwys Tymheredd Uchaf Dyddiol, Dyodiad Blynyddol, Lleithder Cymharol Dyddiol a Lleithder Penodol Dyddiol
Canlyniadau Amodau Dan Do sy'n cynnwys Ansawdd Aer Dan Do a Gorboethi
Canlyniadau Diraddio Adeiladwaith sy'n cynnwys Darheulad, Dyodiad a Lleithder Cymharol
Mae Astudiaethau Achos ar gyfer pedair tref a dinas gynrychioliadol yn dangos canlyniadau ar gydraniad o 2.2 km, gan roi syniad o'r amrywiad a ragfynegir yn ddaearyddol ar draws pob ardal:
Aberystwyth sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig
Caerdydd sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig
Abertawe sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig
Wrecsam sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig
I gael gwell dealltwriaeth o effaith gorboethi yn ystod yr haf ar dai sydd wedi'u hinswleiddio'n helaeth ac awgrymiadau ar ddulliau o fynd i'r afael â nhw ewch i: Ystyried gorboethi yn ystod yr haf mewn cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n sylweddol: taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU
I gael gwell dealltwriaeth o effaith gorboethi yn ystod yr haf ar eiddo ôl-1985 (gan gynnwys adeiladau hŷn wedi'u troi'n fflatiau) ac awgrymiadau ar ddulliau o fynd i'r afael â nhw ewch i: Ystyried gorboethi yn ystod yr haf mewn eiddo ôl-1985 (gan gynnwys adeiladau hŷn wedi’u troi’n fflatiau): taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU
I gael gwell dealltwriaeth o effaith lleithder cymharol yn ystod yr haf mewn eiddo hŷn ac awgrymiadau ar ddulliau o fynd i'r afael â nhw ewch i: Ystyried lleithder cymharol yn ystod yr haf mewn adeiladau hŷn: taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU
I gael gwell dealltwriaeth o flaenoriaethau cynnal a chadw, atgyweirio ac addasu eiddo hŷn, traddodiadol o dan hinsawdd sy'n newid, ewch i: Ystyried blaenoriaethau atgyweirio, cynnal a chadw ac addasu ar gyfer eiddo hŷn: taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (6)
- Math:
- Map
- Dyddiad cyhoeddi:
- 27 Mawrth 2024
- Trwydded:
- Heb ei nodi
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg