Mae'r haenau hyn yn cynrychioli cyfyngiadau caled ar ddatblygu'r adnodd ynni amrediad llanw o fewn ardal Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a chyfyngiadau meddal a allai arwain at oblygiadau i unrhyw ddatblygiad o'r adnodd yn y dyfodol.

Mae cyfyngiad caled yn cyfeirio at ystyriaeth ofodol (fel gweithgareddau neu seilwaith presennol) sy'n atal datblygiad newydd i sector penodol i bob pwrpas. Defnyddiwyd yr haenau cyfyngiadau caled hyn fel rhan o'r gwaith i fireinio Ardaloedd Adnoddau, fel bod unrhyw ardaloedd a gwmpesir gan gyfyngiadau caled yn cael eu heithrio o Ardaloedd Adnoddau wedi’i Mireinio.

Mae cyfyngiad meddal yn ystyriaeth ofodol sy’n ymwneud â sector penodol ac a allai fod yn berthnasol i brosiect penodol. Byddai arwyddocâd a goblygiadau perthynol cyfyngiad meddal neu gyfres o gyfyngiadau meddal yn dibynnu ar natur y prosiect sydd dan ystyriaeth. 

Roedd y gwaith mapio cyfyngiadau meddal a wnaed ar gyfer nodi Ardaloedd Adnoddau wedi’u mireinio yn cynnwys grwpio’r cyfyngiadau meddal i bedwar categori:

  1. Risg isel iawn o wrthdaro a/neu botensial da iawn ar gyfer cydfodoli. 
  2. Risg isel o wrthdaro a/neu botensial da ar gyfer cydfodoli.
  3. Risg ganolig o wrthdaro a/neu botensial isel ar gyfer cydfodoli.
  4. Risg uchel o wrthdaro a/neu ychydig iawn o botensial ar gyfer cydfodoli.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Categori:
Cefnforoedd

Nodweddion a nodweddion cyrff dŵr halen (ac eithrio dyfroedd mewndirol). Enghreifftiau: llanw, tonnau llanw, gwybodaeth arfordirol, riffiau

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Amrywiol / Deilliedig

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol
Darllenwch y metadata llawn