O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016), mae Adran 7 yn ei gwneud yn ofynnol i restrau bioamrywiaeth gael eu cynhyrchu. Mae'r rhestrau hyn yn cynnwys mathau o gynefinoedd sydd yn "Bwysig Iawn" at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Mae'r rhestr hon yn disodli'r ddyletswydd yn Adran 42 o Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Yn ogystal â hyn, gellir gwarchod cynefinoedd morol o dan Gonfensiwn OSPAR, sydd wedi sefydlu rhestr o "rywogaethau a chynefinoedd dan fygythiad a/neu sy'n dirywio" yng Ngogledd-ddwyrain yr Iwerydd. Mae’r set ddata ofodol hon yn manylu ar helaethrwydd a lleoliad y cynefinoedd morol hynny sydd wedi’u dosbarthu fel “Pwysig Iawn” o dan Adran 7 ac sy’n cael eu hystyried yn rhai “dan fygythiad neu’n dirywio” o dan OSPAR yng Nghymru. Ymhlith y cynefinoedd mae: Creigresi Carbonad, Creigiau Morydol, Mwydyn Crwybr Sabellaria alveolata, Clogfeini Rhynglanwol, Cynefinoedd mwd mewn dyfroedd dyfnion, Gwelyau Misglod Gwyrddion Musculus Discors, Gwelyau Cregyn Gleision (a restrir o dan OSPAR hefyd), Sbwng Bregus ac Anthosoaid (a restrir o dan OSPAR hefyd), Gwely Marchfisglod Modiolus (a restrir o dan OSPAR hefyd), Fflatiau Llaid Rhynglanwol (a restrir o dan OSPAR hefyd), Gwelyau Maerl byw a marw (a restrir o dan OSPAR hefyd), riff Sabellaria spinulosa (a restrir o dan OSPAR hefyd), Lagwnau Heli (a restrir o dan OSPAR hefyd), Morfa Heli, Gwelyau Morwellt (a restrir o dan OSPAR hefyd), Megaffawna Seapens a Thyrchu (a restrir o dan OSPAR hefyd), Datguddiadau Clai Mawn (a restrir o dan OSPAR hefyd), Graean Mwdlyd Cysgodol (a restrir o dan OSPAR hefyd), Gwaddodion Mwd Cymysgedd Islanwol (a restrir o dan OSPAR hefyd), Sianelau wedi’u Hysgubo gan y Llanw (a restrir o dan OSPAR hefyd), Gwelyau Wystrys (OSPAR yn unig).

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata. Yn deillio'n rhannol o ddata a ddarparwyd o dan drwydded gan Arolwg Daearegol Prydain © NERC

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol
Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Biota

Fflora a / neu ffawna yn yr amgylchedd naturiol. Enghreifftiau: bywyd gwyllt, llystyfiant, gwyddorau biolegol, ecoleg, anialwch, morfil, gwlyptiroedd, cynefin

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn