Rhaid i holl awdurdodau lleol Cymru gynhyrchu mapiau o rwydweithiau cerdded a beicio yn eu ardaloedd lleol, a adnabyddir fel Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl).

Mae canllaw defnyddwyr Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn egluro sut i gael mynediad at a defnyddio’r mapiau ar-lein.

Mae canllaw gwybodaeth gefndirol Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn esbonio Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (a sut i'w dehongli).

Mae Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn cael eu creu a’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn cael eu dangos gyda’i gilydd yma er mwyn defnydd rhwydd. Am fwy o wybodaeth neu i holi am fapiau unigol, cysylltwch gyda’r awdurdod lleol perthnasol os gwelwch yn dda.

SUT I AGOR Y MAPIAU:

Gallwch gael mynediad at y mapiau unai gan roi clic i’r botwm gwyrdd ‘Dangos yn y syllwr mapiau’ (ar y dde uchod), neu gan ddewis awdurdod lleol o’r rhestr isod:

Abertawe Blaenau Gwent
Bro Morgannwg Caerdydd
Caerffili Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot Ceredigion
Conwy Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr Powys
Rhondda Cynon Taf Sir Benfro
Sir Ddinbych Sir Fynwy
Sir Gaerfyrddin Sir y Fflint
Torfaen Wrecsam
Ynys Môn

NODYN AR FAPIAU RHWYDWAITH TEITHIO LLESOL:

Mae’r mapiau hyn yn dangos dau brif beth:

  1. Llwybrau presennol  - llwybrau cerdded a beicio sydd eisoes yn cyrraedd safon teithio llesol Llywodraeth Cymru ac yn medru cael eu defnyddio ar gyfer teithiau pob dydd, ac
  2. Llwybrau’r dyfodol – llwybrau newydd y mae’r awdurdod lleol yn cynnig eu creu yn y dyfodol, yn ogystal â llwybrau presennol y mae bwriad i’w gwella er mwyn iddynt gyrraedd y safonau. 

 Nodwch os gwelwch yn dda:

  • Mae cerddwyr a rhedwyr oll yn ogystal â defnyddwyr sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn, coetsis cadair a chymhorthion symudedd yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o gerdded. Mae pob math o feiciau, yn cynnwys e-feiciau cyfreithiol, beiciau wedi eu haddasu neu feiciau ansafonol wedi eu cynnwys yn y diffiniad o feicio.
  • Mae’r amserlin a ddangosir ar gyfer datblygu llwybrau’r dyfodol er mwyn rhoi syniad yn unig, ac mae’n bosib y bydd yr awdurdod yn eu newid 
  • Yn unol â’r gofyniadau cyfreithiol, mae’r gwaith o greu rhwydweithiau yn canolbwyntio ar yr aneddiadau mwyaf ym mhob awdurdod. Fodd bynnag, gall llwybrau y tu allan i’r ardaloedd hyn gael eu cynnwys lle mae potensial uchel ar gyfer defnydd dyddiol.
  • Lle bo defnydd llwybr y dyfodol yn cael ei ddiffinio fel  ‘cerdded a beicio’ nid yw hyn yn awgrymu y bydd y llwybr yn un a rennir. Bydd yr holl opsiynau ar gyfer darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses datblygu llwybr.
  • Lle bo llwybrau presennol pwysig nad ydynt yn bell o gyrraedd y safon angenrheidiol, bydd ‘datganiad’ byr ar gael yn egluro cyfyngiadau’r llwybr.
  • Mae’r mapiau hefyd yn dangos cyfleusterau cysylltiedig a rhwystrau, yn cynnwys toiledau, mannau parcio beiciau, grisiau a chroesfannau ffordd.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (14)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Cytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn